Ciw-restr

Y Llyffantod

Llinellau gan Côr y Llyffantod (Cyfanswm: 81)

 
(0, 2) 1273 C-r-rawca! C-r-rawca! C-r-rawca!
(0, 2) 1274 Mor hyfryd yw anthem y Broga!
(0, 2) 1275 A dyma ni'n glyd,
(0, 2) 1276 Yn hapus ein byd,
(0, 2) 1277 Peidiwch, da chi, â'i ddifetha.
(0, 2) 1278 ~
(0, 2) 1279 Pa ddiben pryderu
(0, 2) 1280 Am helbul yfory,
(0, 2) 1281 A mwydro eich pennau
(0, 2) 1282 Â dyrys broblemau?
(0, 2) 1283 Rhyfygu penwynni
(0, 2) 1284 Yw mynych ymboeni
(0, 2) 1285 A gwahodd y rhychau
(0, 2) 1286 Ar draws eich talcennau.
(0, 2) 1287 Os ydych am heddwch,
(0, 2) 1288 A hyfryd lonyddwch,
(0, 2) 1289 Fe'u cewch os dewiswch
(0, 2) 1290 Ddi-hîd ddifaterwch.
(0, 2) 1291 ~
(0, 2) 1292 C-r-rawca! C-r-rawca! C-r-rawca!
(0, 2) 1293 Mor hyfryd yw anthem y Broga!
(0, 2) 1294 A dyma ni'n glyd
(0, 2) 1295 Yn hapus ein byd,
(0, 2) 1296 Peidiwch, da chi, â'i ddifetha.
(0, 2) 1297 ~
(0, 2) 1298 Ystyriwch am funud
(0, 2) 1299 Mor fregus yw bywyd,
(0, 2) 1300 Mor fyr ac adeiniog
(0, 2) 1301 Mor gwta a gwibiog.
(0, 2) 1302 Gan hynny, doethineb
(0, 2) 1303 Yn sicr yw'r wireb:
(0, 2) 1304 Mwynhewch yn frwdfrydig
(0, 2) 1305 Y wledd ddiflanedig.
(0, 2) 1306 Os bydd unrhyw ddanod
(0, 2) 1307 Am hyn, neu anghydfod,
(0, 2) 1308 Ein dull ni, Lyffantod,
(0, 2) 1309 Yw boddi'r Gydwybod!
(0, 2) 1310 ~
(0, 2) 1311 C-r-rawca! C-r-rawca! C-r-rawca!
(0, 2) 1312 Mor hyfryd yw anthem y Broga!
(0, 2) 1313 A dyma ni'n glyd
(0, 2) 1314 Yn hapus ein byd,
(0, 2) 1315 Peidiwch, da chi, â'i ddifetha.
(0, 2) 1316 ~
(0, 2) 1317 Ein gofal ni beunydd —
(0, 2) 1318 Ein hunig ddyletswydd —
(0, 2) 1319 Yw gweld bod ein ffosydd
(0, 2) 1320 A'n llynnoedd yn llonydd;
(0, 2) 1321 Dim rhaid bod yn effro —
(0, 2) 1322 Ond gochel rhag cyffro —
(0, 2) 1323 Cawn gwsg mewn seguryd
(0, 2) 1324 A nefol esmwythyd.
(0, 2) 1325 Mor ddibwys i Lyffant
(0, 2) 1326 Yw iaith a diwylliant,
(0, 2) 1327 A chenedlaetholdeb
(0, 2) 1328 Yn ddim ond ffolineb!
(0, 2) 1329 ~
(0, 2) 1330 C-r-rawca! C-r-rawca! C-r-rawca!
(0, 2) 1331 Mor hyfryd yw anthem y Broga!
(0, 2) 1332 A dyma ni'n glyd
(0, 2) 1333 Yn hapus ein byd
(0, 2) 1334 Peidiwch, da chi, â'i ddifetha.
(0, 2) 1335 ~
(0, 2) 1336 Ym mhob oes ceir ffyliaid
(0, 2) 1337 Ac amryw benboethiaid,
(0, 2) 1338 Sy'n teimlo rhyw ysfa
(0, 2) 1339 I wella'r sefyllfa!
(0, 2) 1340 Mae rhai'n ddigon eiddgar
(0, 2) 1341 I fyned i garchar;
(0, 2) 1342 Ac eraill yn barod
(0, 2) 1343 I ddiodde merthyrdod!
(0, 2) 1344 Rôl meddwl yn sobor
(0, 2) 1345 Am hyn, dyma'n cyngor:
(0, 2) 1346 Os baich yw Egwyddor,
(0, 2) 1347 Peth doeth yw ei hepgor!
(0, 2) 1348 ~
(0, 2) 1349 C-r-rawca! C-r-rawca! C-r-rawca!
(0, 2) 1350 Mor hyfryd yw anthem y Broga!
(0, 2) 1351 A dyma ni'n glyd,
(0, 2) 1352 Yn hapus ein byd,
(0, 2) 1353 Peidiwch, da chi, â'i ddifetha.